Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod y Rhyfel

I’r rhan fwyaf o bobl Prydain, byw ar y ‘Ffrynt Cartref’ oedd eu profiad o’r Ail Ryfel Byd, gan brofi toriadau trydan, dogni, faciwîs, ymosodiadau o’r awyr, a’r risg o ymosodiadau gorchfygol a oedd i gyd yn arwain at deimladau o bryder yn ogystal â theimlad cryfach o gymuned.

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd y Ffatri Arfau'r Goron anferth ym Mracla a Thre Dŵr, ynghyd â Gwersyll Carcharorion Fferm yr Ynys yn dod â’r rhyfel yn agosach fyth. Roedd 32,000 o weithwyr, y rhan fwyaf ohonynt yn fenywod, yn teithio bob dydd o bob cwr o Sir Forgannwg i’r ffatri, i gyflawni’r swydd hollbwysig a pheryglus o lenwi bomiau a sieliau â ffrwydron. Gellid gweld carcharorion Almaenig yn rheolaidd o gwmpas y dref wrth iddynt orymdeithio o Wersyll Fferm yr Ynys i weithio ar y rheilffordd. Dihangodd rai o’r carcharorion yn 1945 gan achosi cynnwrf ac ofn wrth i bobl hen ac ifanc aros yn wyliadwrus am unrhyw arwyddion o’r dynion a ddihangodd.

Er bod y rhyfel wedi achosi anawsterau, roedd yr ysbryd yn gryf ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Cafwyd ymateb brwdfrydig iawn i’r ymgyrch ar gyfer bondiau rhyfel. Yn wir, casglwyd cymaint o arian yn Sir Forgannwg yn ystod Wythnos y Llongau Rhyfel a olygai ei bod wedi cyrraedd y pedwerydd safle o ran yr arian a godwyd fesul person yn holl siroedd Cymru a Lloegr. Gosodwyd Cerrig yr Orsedd yng nghaeau Newbridge ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol a fyddai’n cael ei gohirio tan 1948 oherwydd y rhyfel. 

Rhyfel Pen-y-bont ar Ogwr 2017

Cafwyd datblygiadau eraill yn y cyfnod hwn, megis agor Cyngor am Bopeth Pen-y-bont ar Ogwr a sinema’r Embassy.