TREFTADAETH
RAF Stormy Down
Maes awyr y rhyfel
Chwaraeodd Maes Awyr yr Awyrlu Brenhinol Stormy Down ran bwysig iawn o ran hyfforddi lluoedd tir ac awyr y Gymanwlad a’r Cynghreiriad yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Adeiladau pren, gweithdai a rhedfa fach â glaswellt oedd y cyfleusterau ar y cychwyn, ond ymestynnodd wedyn i gynnwys awyrendy o fath VR, adeiladau concrit ac arwyneb cyfnerthedig ar gyfer y rhedfa.
Hyfforddwyd mwy na 7,000 o ddynion i ddefnyddio gynnau awyrennau yno ar gyrsiau a oedd yn para am hyd at saith wythnos. Yn aml iawn roeddent mor ifanc â 18-19 oed pan oeddent yn cyrraedd, a byddent yn Sarsiant cyn gadael a gallent ddisgwyl bod mewn brwydr yn fuan ar ôl hynny. Lleolwyd ysgol arfau tir ar y safle hefyd. Hyfforddwyd 1,800 o aelodau o Awyrlu Cynorthwyol Menywod yr RAF yno, ochr yn ochr â channoedd o forwyr i fod yn Gynwyr Awyr Telegraffwyr gydag Adran Awyr y Llynges.
Amcangyfrifwyd y byddai mwy na 10% o’r dynion ifanc a gafodd eu hyfforddi yn Stormy Down yn colli eu bywydau yn ystod eu gwasanaeth gyda’r Rheolaeth Awyrennau Bomio. Yn eu plith roedd y rhingyll Frank Garbas o Ganada a gymerodd rhan yn ymosodiad enwog y ‘Dambusters’.
Bu farw 53 o hyfforddeion – Prydeinwyr, pobl o Ganada, Seland Newydd, a Gwlad Pwyl - yn y safle, ac mae 11 ohonynt wedi eu claddu ym Mynwent Notais, Porthcawl.
Fferm yr Ynys
hen wersyll carcharorion rhyfel
Adeiladwyd gwersyll Fferm yr Ynys yn 1937 yn wreiddiol fel neuadd gysgu ar gyfer gweithlu niferus Ffatri Arfau’r Goron, ond bu’n wag mewn gwirionedd hyd at 1943 pan y’i defnyddiwyd i ddarparu llety i rai o Droedfilwyr Adran Arfog 28ain, a oedd yn ymarfer ar y traethau cyfagos wrth baratoi ar gyfer yr ymosodiad ar Ffrainc.
Yn dilyn glaniadau Dydd-D, rhoddwyd yr enw Gwersyll Carcharorion Rhyfel 198 iddo ac roedd yn lletya 1600 filwyr a oedd wedi eu dal. Yn ystod noson Mawrth 10, 1945 llwyddodd rhai o’r dynion hyn i ddianc gan ddefnyddio twnnel cudd, a dihangodd tua 70 o garcharorion i’r cefn gwlad o gwmpas Pen-y-bont ar Ogwr.
Daliwyd pob un ohonynt o fewn wythnos, ac roedd rhai wedi mynd cyn belled â Southampton, ond oherwydd y perygl o dwneli cudd eraill bu’n rhaid cau’r gwersyll.
Agorwyd y gwersyll eto ar ôl y rhyfel fel Gwersyll Arbennig XI i gadw 200 o uwch-swyddogion byddin yr Almaen yr oedd yn rhaid iddynt fynychu achosion troseddau rhyfel mewn gwahanol rannau o Ewrop. Defnyddiwyd y gwersyll yn ddiweddarach gan yr heddlu, fel safle hyfforddi’r fyddin, a hyd yn oed gan dîm rygbi Pen-y-bont ar Ogwr fel ystafell newid. Yn y pen draw, dirywiodd yr adeilad a chwalwyd y rhan fwyaf o’r safle, ond cafodd Cwt 9, lleoliad y dihangiad enwog, ei arbed a rhoddwyd statws adeilad rhestredig gradd II iddo.
Ffatri Arfau’r Goron
wedi ei leoli yn Brackla a Waterton
Ystordy arfau Pen-y-bont ar Ogwr oedd ymateb Prydain i ailadeiladu lluoedd arfog yr Almaen gan Hitler. Dechreuodd gwaith ym mis Hydref 1937, llai na dwy flynedd cyn y rhyfel. Crëwyd saith ogof enfawr o dan Fryn Bracla er mwyn cadw’r ffrwydron, ac adeiladwyd cronfa ddŵr uwchben yr ogofau ac maent yn dal i gael eu defnyddio heddiw. Datblygwyd dwy ystâd tai ar gyfer y gweithwyr a’u teuluoedd ym Mryntirion ac Abergarw. Adeiladwyd dwy hostel anferth ar gyfer 4,000 o weithwyr benywaidd yn Fferm yr Ynys ac ym Mhencoed. Roedd dros 1,000 o adeiladau yn Nhref Dŵr, gan gynnwys yr Adeilad Gweinyddol (Pencadlys Heddlu De Cymru erbyn hyn).
Yn ei anterth roedd 32,000 o bobl yn gweithio yn yr ystordy arfau, ac roedd 75% ohonynt yn fenywod. Roeddent yn dod ar y trên neu ar y bws bob dydd o bob cwr o Sir Forgannwg, ac adeiladwyd gorsaf trên bwrpasol ar dir y ffatri.
Nid oedd gan y rhan fwyaf o’r gweithwyr brofiad o weithio gyda ffrwydron – ond roedd yn rhaid iddyn nhw weithio gyda deunyddiau fflamllyd a pheryglus er hynny. Ffatri Llenwi oedd Pen-y-bont ar Ogwr: llenwyd llawer o filiynau o arfau o bob math â ffrwydron. Roedd damweiniau yn anorfod; collodd 22 o bobl eu bywydau, a chafodd llawer eu hanafu’n wael iawn. Ond roedd y bywyd cymdeithasol a’r cyfeillgarwch yn rhywbeth yr oedd llawer o’r gweithwyr yn ei fwynhau ac roedd yn rhyddhad i lawer hefyd. Enillodd y menywod yn arbennig gyflog na fyddai’n ymddangos fel bod yn bosibl cyn y rhyfel.
Bu cyfraniad gweithlu ystordy arfau Pen-y-bont ar Ogwr yn amhrisiadwy ar gyfer buddugoliaeth Lluoedd y Cynghreiriad.
HMS Urge
llong danfor a dalwyd gan bobl Pen-y-bont ar Ogwr
Yn ystod 1941-42 cynhaliwyd ymgyrchoedd arian cynilo gan y wladwriaeth, Wythnosau’r Llongau Rhyfel, mewn ymdrech i godi cyllid ychwanegol ar gyfer y Llynges Frenhinol. Y nod oedd i ddinasoedd fabwysiadu cadlongau milwrol a llongau cludo awyrennau, wrth i drefi a phentrefi ganolbwyntio ar gadgriwserau a distrywlongau. Ar ôl i’r swm targed gael ei godi, byddai’r gymuned yn mabwysiadu’r llong ac yn cefnogi ei chriw.
Cynhaliwyd Wythnos y Llongau Rhyfel ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r Rhanbarth o 15 Tachwedd hyd at 22 Tachwedd 1941 gyda tharged o £300,000 ar gyfer y llong danfor H.M.S. Urge. Roedd H.M.S. Urge yn llong danfor a oedd yn dadleoli 540 o dunelli ar yr wyneb a 730 o dunelli o dan y dŵr, gyda 27 o aelodau criw, ac wedi’i harfogi â chwe thiwb torpido.
Capten y llong danfor oedd yr Is-gomander E.P. Tomkinson, R.N., un o’r deg prif weithredwr llongau tanfor, a bu’n gwasanaethu yn ymarferol ym Môr y Canoldir, pryd y llwyddodd i ddifrodi neu suddo nifer o longau'r gelyn. Yn anffodus collwyd H.M.S. Urge a phob aelod o’r criw ym mis Ebrill 1942. Y cred yw ei bod wedi bwrw mein ger arfordir Malta.
Yr H.M.S. Urge oedd y gyntaf o nifer o longau tanfor a fabwysiadwyd gan Ben-y-bont ar Ogwr. Cafodd H.M.S. Tudor yrfa lwyddiannus hefyd, a bu’n gwasanaethu yn y Dwyrain Pell.