Yn ystod gwanwyn 2017, rhoddwyd arian grant i Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i ddatblygu prosiect yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr i goffau’r rhan a chwaraewyd gan Ben-y-bont ar Ogwr yn yr Ail Ryfel Byd.
Mae’r prosiect yn cynnwys nifer o weithgareddau addysg a chyfranogiad ar gyfer aelodau’r gymuned ac ysgolion, a fydd yn arwain at ddatblygu rhodfa dreftadaeth wedi’i chefnogi gan adnoddau digidol yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.
Cyflwyniadau Hanes
Yn ystod gwanwyn 2018, cynaliasom gyfres o 4 Cyflwyniad Hanes, â phob un yn canolbwyntio ar un agwedd ar y Dreftadaeth. Roedd y rhain yn hynod boblogaidd a daeth llawer o bobl i wrando arnynt. Mae copïau o’r cyflwyniadau ar gael ar ffurf DVD, a hynny at ddefnydd preifat yn unig. Cysylltwch â ni os hoffech chi archebu DVD.

Edrychwch ar rai o'r gwrthrychau diddorol a ddefnyddiwyd gan bobl y Deyrnas Unedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.